Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 12 Mawrth 2020
Amser:
09.24 -
12.40
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5961
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Huw Irranca-Davies AC David Melding AC Delyth Jewell AC |
Tystion: |
David Cox, Association of Residential Letting Agents Douglas Haig, Residential Landlord Association Rob Simkins, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Dan Wilson Craw, Generation Rent Alun Evans, Cyngor ar Bopeth Jennie Bibbings, Shelter Cymru Nick Morris, Crisis |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1. Croesawodd y Pwyllgor yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2. Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Caroline Jones AC. Dirprwyodd David Melding AC ar ran Mark Isherwood AC yn unol â Rheol Sefydlog 17.48. Cafwyd ymddiheuriadau gan Mark Isherwood AC am ei absenoldeb o eitem 8.
1.3. Datganodd Huw Irranca-Davies AC fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A.
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· David Cox, Prif Weithredwr, ARLA | Propertymark
· Douglas Haig, Is-gadeirydd a Chyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Landlordiaid Preswyl
2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd ARLA | Propertymark i ddarparu nodyn ynghylch a fyddai unrhyw un o'r cynigion yn y Bil fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd yn torri deddfwriaeth hawliau dynol.
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Rob Simkins, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, Cymru
· Dan Wilson Craw, Cyfarwyddwr, Generation Rent
3.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Generation Rent i ddarparu ystadegau manwl o Arolwg Tai Lloegr ar ddigartrefedd sy’n ganlyniad i droi allan heb fai.
4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Alun Evans, Uwch-swyddog Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth, Cyngor ar Bopeth
· Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd, Shelter Cymru
· Nick Morris, Rheolwr Polisi a Chyfathrebu (Cymru), Crisis
4.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Shelter Cymru i rannu manylion eu hymchwil i Safon Cartref Byw, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
Papurau i’w nodi
5.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
5.2a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).
5.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21.
5.4.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd mewn perthynas â'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3 a 4.
8.1. Cytunodd y Pwyllgor ar yr ymateb i’r llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).